Owain Bebb a'i Gwmni

Cymraeg | English

Caernarfon

32 Y Maes
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 2NN

[t] 01286.675916
[f] 01286.677634
[e] post@owainbebb.com

Pwllheli

20 Penlan
PWLLHELI
Gwynedd
LL53 5DE

[t] 01758.612646
[f] 01758.701580
[e] post@owainbebb.com

Rhif T.A.W. 456 9369 95

 

Newyddion...

Gwefan newydd ar y ffordd...

Newyddlen...

Cliciwch yma i dderbyn ein Newyddlen electroneg....

llun

Ein Gwasanaethau

Caernarfon

Mae gennym yr arbenigedd a’r meddalwedd i’ch arbed rhag y cur pen o gwblhau’r ffurflen Hunanasesu a chydymffurfio â’r rheolau.  Gallwn roi cyngor ymarferol i chi ynghylch sefyllfaoedd treth personol a’r cyfleoedd cynllunio sydd ar gael i chi.  Gallwn gwblhau ffurflenni treth ar eich rhan, cyfrif unrhyw atebolrwydd treth ar eich cyfer a’ch cynghori ynghylch pryd yn union ddylech chi wneud eich taliadau a faint ddylech chi ei dalu.

Heddiw, rhoddir mwy a mwy o bwyslais ar gyfrifoldebau unigol trethdalwyr ac mae pawb sy’n cael eu trethu angen cyngor a chefnogaeth broffesiynol os am wneud y gorau o’u sefyllfa dreth a sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion cydymffurfio.  Gall ein tîm treth arbenigol eich cynghori drwy gydol y flwyddyn ynghylch pob agwedd ar dreth bersonol.

Gall ymchwiliad treth gan  Cyllid y Wlad fod yn brofiad pryderus, llawn straen a thensiwn.  Gyda dyfodiad hunanasesiad  personol a chorfforedig, gall staff  Cyllid y  Wlad  adolygu achosion ar sail 'sampl' yn awr. O ganlyniad, mae ymchwiliadau treth yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd.  Mae gennym gyfoeth o brofiad o ddelio ag ymchwiliadau’r Cyllid y Wlad, boed yn ymchwiliadau i Ffurflen Dreth unigolyn dan y drefn Hunanasesu, ymchwiliadau manylach neu ymchwiliadau cysylltiedig â chydymffurfiaeth cyflogwr mewn perthynas â Thalu Wrth Ennill a P11d.  Os ydych ar fin cael ymchwiliad, fe allwn ddarparu cymorth a chefnogaeth arbenigol.

Gan fod mwy a mwy o ymchwiliadau o’r fath yn cael eu cynnal, efallai ei bod yn werth i chi ystyried cael polisi yswiriant blynyddol i’ch gwarchod chi a’ch busnes rhag costau annisgwyl; bydd ymchwiliad yn siwr o arwain at wneud gwaith cyfrifo ychwanegol.  Bydd faint o waith fydd raid ei wneud yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos, ond gallai’r gost fod yn sylweddol.  Holwch am ddyfyn-bris.

Dan Hunanasesiad Treth Gorfforaeth  , perchnogion y busnes sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am gyfrif y dreth gorfforaeth  yn gywir.  Rydym yn deall y materion sy’n wynebu busnesau a reolir gan berchnogion a gallwn baratoi ffurflenni treth mewn ffordd amserol ac effeithlon.  Byddwn hefyd yn cyfrif atebolrwydd treth eich cwmni ac yn cynorthwyo gyda chyfrif unrhyw ran-daliadau chwarterol.     

Mae’r dyletswyddau adrodd yn ôl cynyddol, y polisïau ymchwilio sydd gan awdurdodau treth a’r cosbau llymach am fethu cydymffurfio’n golygu bod eich amser a’ch adnoddau’n cael eu llyncu gan y gwaith gweinyddol cysylltiedig â threth.  Byddwn yn eich helpu i sicrhau cyn lleied ag y bo modd o dreth gorfforaeth ac yn lleddfu’r baich gweinyddol cysylltiedig â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth dreth gyfredol.  Gall cynllunio effeithiol mewn perthynas â threth gorfforaeth   arwain hefyd at welliannau sylweddol i’ch helw.

Rydym yn arbenigwyr ar dreth incwm, treth gorfforaeth, treth ar enillion cyfalaf a threth etifeddiaeth.

Ychydig iawn ohonom sy’n hoffi meddwl am farw, fodd bynnag, mae’r ddeddfwriaeth berthnasol yn dweud ei bod yn ofynnol i ni gynllunio ymlaen yn dda.  Mae hyn yn golygu  gwneud y darpariaethau angenrheidiol yn awr.  Mae nifer o gyfleoedd treth ar gael ac mae’n syniad doeth iawn gwneud trefniadau’n gynnar yn y dydd er mwyn manteisio i’r eithaf ar ein system dreth gymhleth.                     
Mae’n bwysig wrth gynllunio i drosglwyddo stad bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud ac mae sicrhau’r cydbwysedd priodol yn galw am sgiliau a blaengaredd sylweddol – ynghyd â gwybodaeth fanwl am y drefn dreth bresennol.  Rydym yn darparu gwasanaeth cynllunio stad cynhwysfawr a chyfrinachol sy’n cynnwys:            

  • cymorth gyda chynllunio ac adolygu ewyllys;
  • gwneud defnydd llawn o eithriadau a chyfraddau treth is ar drosglwyddiadau oes;                            
  • manteisio i’r eithaf ar drosglwyddiadau oes rhwng aelodau o’r teulu;
  • trosglwyddo eiddo amaethyddol neu fusnes;              
  • trosglwyddo asedau i ymddiriedolaeth; a
  • trefnu yswiriant bywyd digonol i dalu am atebolrwydd posibl yn gysylltiedig â threth etifeddiaeth.

Hefyd, rydym yn arbenigo ar ddelio ag ymddiriedolaethau; ffordd gymharol rwydd a hynod dreth-effeithlon o neilltuo asedau ar gyfer y rhai sydd i elwa’n y dyfodol y tu allan i rwyd y dreth etifeddiaeth. Gallwn eich cynghori ynghylch yr ymddiriedolaeth fwyaf addas i’w sefydlu er mwyn cyflawni eich dymuniadau, cynorthwyo gyda sefydlu’r ymddiriedolaeth a darparu’r amrywiaeth llawn o wasanaethau cyfrifo sydd eu hangen ar gyfer rheoli’r ymddiriedolaeth.

TAW

Mae rheoliadau’n newid o hyd a gofynion cynyddol yr adran Tollau Tramor a Chartref yn golygu bod cydymffurfiaeth TAW yn gallu bod yn broses weinyddol anodd.  Gallwn eich helpu i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau ac nad ydych yn gor-dalu ar unrhyw adeg.  I’ch helpu i reoli’r maes cymhleth hwn, rydym yn darparu gwasanaeth TAW effeithlon a chost-effeithiol, sy’n cynnwys:      

  • cymorth gyda chofrestru ar gyfer TAW;
  • cyngor ynghylch cynllunio ar gyfer a gweinyddu TAW;
  • defnydd o’r cynllun mwyaf priodol;  
  • rheoli a chysoni TAW;           
  • cymorth gyda chwblhau ffurflenni TAW;
  • cynllunio i sicrhau cyn lleied o broblemau yn y dyfodol gyda’r adran Tollau Tramor a Chartref; a             
  • trafod gyda’r adran Tollau Tramor a Chartref mewn unrhyw anghydfod a’ch cynrychioli mewn tribiwnlys TAW os oes angen.

Bydd y cyfuniad o’ch gwybodaeth fusnes chi a’n gwasanaethau cefnogi ni o gymorth i’ch busnes dyfu a chynyddu ei elw.  

Mae gwybodaeth reoli reolaidd yn allweddol i lwyddiant parhaus unrhyw fusnes.  Rydym yn gweithio’n agos gyda chi i ddod i adnabod eich busnes fel ein bod yn gallu gwneud awgrymiadau i helpu i wella eich elw neu i ddatblygu ac ehangu eich busnes. Gallwn baratoi eich cyfrifon rheoli misol a chwarterol i sicrhau bod gennych wybodaeth ddibynadwy a manwl gywir bob amser ar gyfer seilio eich penderfyniadau busnes arni. 

Gall gofalu am Gyflogres neu Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gymryd llawer o amser a gall fod yn gymhleth iawn, gan ddargyfeirio adnoddau o weithgareddau craidd eich busnes.  Gall hefyd fod yn gostus iawn o ran cosbau os ydych yn gwneud camgymeriad neu’n hwyr yn bodloni’r dyddiadau cau ar gyfer ffeilio.  Mae rhoi’r gwaith hwn allan o gymorth i leddfu’r baich yn fewnol, a gallwn gynnig atebion cost-effeithiol i chi drwy gyfrwng ein Biwro Cyflogres.  Rydym yn gallu darparu’r gwasanaeth cyflawn, waeth beth yw maint neu gymhlethdod eich busnes, neu ddim ond darparu cefnogaeth pan fo angen.

Gallwn eich helpu gyda’ch holl ofynion cadw llyfrau cyffredinol, naill ai yn eich swyddfeydd chi neu yn ein swyddfa ni.  Efallai y byddwch angen cymorth i ysgrifennu’r cofnodion yn y llyfrau, neu am i ni ychwanegu rhai pethau manwl at yr wybodaeth am systemau cadw llyfrau, er mwyn i chi allu creu eich gwybodaeth reoli eich hun.  Os nad ydych yn cyflogi swyddog cadw llyfrau, gallwn ni fabwysiadu’r rôl honno, neu eich helpu i recriwtio’r person priodol ar gyfer eich busnes.

Dylai pob busnes gynllunio ymlaen er mwyn sicrhau llwyddiant, ond mae pwysau busnes dyddiol yn arwain yn aml iawn at oedi gyda’r broses gynllunio strategol.  Mae rhagolygon ariannol yn rhan hanfodol o unrhyw gynllun busnes a byddwn yn sicrhau bod y rhain yn ystyrlon ac yn gadarn.                   

Rydym yn cynnig cefnogaeth wrth gysylltu â banciau a sefydliadau ariannol eraill. Gan ddefnyddio ein cyfoeth o brofiad, gallwn gefnogi ein clientau drwy’r profiad eithaf anodd hwn.

Mae eich nodau proffesiynol a phersonol chi yn ganolog yn ein gwasanaethau ymgynghori ni; rydym yn cymryd amser i ddod i’ch adnabod yn well, fel ein bod yn gallu cynnig y cyngor gorau posibl.

Gall ein gwasanaeth ymgynghori ar gyfer rheoli adolygu eich systemau rheoli credyd, rheoli stoc, cyllidebu ac adrodd yn ôl am gyllid, gan eich galluogi i reoli’r meysydd allweddol hyn yn eich busnes yn llawn.  Hefyd, gallwn eich helpu i roi sylw i broblemau penodol yn eich busnes, fel elw gros, rheoli cost a gwerthuso stoc.                                 
Bydd gwybodaeth reoli effeithiol yn eich galluogi i fanteisio ar gyfleoedd wrth iddynt godi neu ganfod problemau’n brydlon, fel eich bod yn gallu gweithredu i’w goresgyn.

Mae gennym brofiad eang o becynnau meddalwedd amrywiol ar gyfer cyfrifo, yn cynnwys SAGE, Quickbooks a TAS Books i enwi dim ond tri.  Gallwn eich cynghori ynghylch y pecyn mwyaf addas i’ch anghenion chi ac, yn achos SAGE, fel aelodau o Glwb Cyfrifwyr SAGE, gallwn gyflenwi’r meddalwedd ei hun, a hefyd ei osod ar eich cyfer a darparu hyfforddiant.

 

 

 

 

 

 

Diolch am ymweld a'r wefan, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych angen mae croeso i gysylltu gyda ni cliciwch yma.