Owain Bebb a'i Gwmni

Cymraeg | English

Caernarfon

32 Y Maes
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 2NN

[t] 01286.675916
[f] 01286.677634
[e] post@owainbebb.com

Pwllheli

20 Penlan
PWLLHELI
Gwynedd
LL53 5DE

[t] 01758.612646
[f] 01758.701580
[e] post@owainbebb.com

Rhif T.A.W. 456 9369 95

 

Hanes

CaernarfonSefydlodd Owain Bebb (1940 – 2003) y cwmni i ddechrau yn 1974, gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon a Phwllheli. Unodd wedyn gyda thri chyfrifydd arall i ffurfio Griffith, Williams a Bebb. Daeth y cwmni hwnnw i ben yn 1987 pan sefydlwyd Owain Bebb a’i Gwmni, gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon a Phwllheli.  Roedd y cwmni gwreiddiol yn ymweld â Cherrig y Drudion hefyd, ac mae hynny’n parhau hyd heddiw, gan wasanaethu nifer helaeth o glientau yn ardal Uwch Aled o Ystafell y Plwyf yng Ngherrig y Drudion ar fore Iau.          

Ers hynny, mae’r cwmni wedi tyfu, gyda 3 phartner a 10 aelod o staff.  Heddiw, rydym yn parhau i adeiladu ar ein enw da rhagorol am ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i glientau busnes a phersonol fel ei gilydd. Mae gennym nifer o glientau yn y gymuned leol ac ymhellach i ffwrdd ac rydym yn gwasanaethu busnesau mawr a bach mewn sawl sector amrywiol, yn cynnwys:

  • amaethyddiaeth;
  • y diwydiant teledu a ffilm;
  • y sector gwirfoddol;
  • y sector adloniant;
  • y diwydiant adeiladu;     
  • gweithgynhyrchwyr;
  • adwerthwyr;
  • elusennau; a
  • cyfreithwyr

Yn ogystal â sgiliau cyfrifo, archwilio a threth cyffredinol, mae gan ein partneriaid a’n staff sgiliau arbenigol unigol hefyd, yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth o’r safon uchaf i’n clientau, fel a phan fo angen.  Gyda’n cyfoeth o brofiad, rydym yn ymfalchïo mewn cyflwyno gwasanaeth digyffelyb i bob client, waeth beth yw maint eu cwmni a waeth i ba sector mae’n perthyn.

Yn ychwanegol at wasanaethau cyfrifo, archwilio a threth traddodiadol, rydym hefyd yn darparu cyngor ynghylch sut i wella a datblygu eich busnes.  Pa un ai ydych angen strategaeth fusnes integredig, cyngor ynghylch cyllid corfforaethol  neu gyngor arbenigol ynghylch treth, rydym yma i’ch helpu i gyrraedd pob nod.                   

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth Ymgynghori Ariannol  llawn drwy gyfrwng ein cwmni gwasanaethau ariannol, Cadnant Cyf.

 

 

 

 

 

 

Diolch am ymweld a'r wefan, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych angen mae croeso i gysylltu gyda ni cliciwch yma.