Owain Bebb a'i Gwmni

Cymraeg | English

Caernarfon

32 Y Maes
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 2NN

[t] 01286.675916
[f] 01286.677634
[e] post@owainbebb.com

Pwllheli

20 Penlan
PWLLHELI
Gwynedd
LL53 5DE

[t] 01758.612646
[f] 01758.701580
[e] post@owainbebb.com

Rhif T.A.W. 456 9369 95

 

Newyddion...

Gwefan newydd ar y ffordd...

Newyddlen...

Cliciwch yma i dderbyn ein Newyddlen electroneg....

llun

Pwy ydy Pwy


Y tîm yng Nghaernarfon

 

Rhys Harris ( rhannu ei amser rhwng swyddfeydd Caernarfon a Phwllheli, a hefyd yn mynd i Gerrig y Drudion bob dydd Iau.)

Addysgwyd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a PC Aberystwyth. BSc mewn Amaethyddiaeth.  Wedi gweithio i SWEB yng Nghaerfyrddin a W Whittington, Castell-nedd, ymunodd Rhys â Deloitte Haskins & Sells, Abertawe, a chymhwysodd yn 1985, wedi ennill profiad o waith cyfrifo ac archwilio amrywiol iawn.  Symudodd Rhys i Gaernarfon wedyn yn 1986, gan weithio i WJ Matthews a’i Fab cyn ymuno â chwmni newydd Owain Bebb a’i Gwmni yn 1987. Partner ers 1990. Uwch-bartner ers marwolaeth Owain Bebb yn 2003.

Arbenigedd: Ffermwyr, Gweithwyr Teledu ac Actorion, Cymdeithasau Tai, Busnesau / Cwmnïau Teuluol  Cyffredinol, treth, ymgynghori ynghylch gwella elw.                

E-bost :  rhys@owainbebb.net

 

Ann Evans (Caernarfon)

Addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Llangefni a PC Bangor. BA mewn Mathemateg a Chyfrifo. Ymunodd Ann â Deloitte Haskins & Sells (Conway & Co. yn ddiweddarach) yng Nghaer yn 1990, ble cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig, gan ennill profiad o archwiliadau o bob maint. Ymunodd ag Owain Bebb a’i Gwmni yn 1995. Partner ers 1997.

Arbenigedd: Elusennau, Sefydliadau Gwirfoddol, Cwmnïau Masnachu Cyffredinol.         

E-bost : ann@owainbebb.net

 

Beryl Price
Ymunodd Beryl â ni o Theatr Gwynedd ac mae’n gyfrifol am y dderbynfa, am TAW ac am y gyflogres, yn ychwanegol at ein gwaith gweinyddol ni.

E-bost : post@owainbebb.net

 

Gwenno Wyn
Ymunodd Gwenno â ni fel cyfrifydd  dan hyfforddiant wedi graddio mewn Mathemateg a Chyfrifo o Brifysgol Bangor yn 2000. Cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig yn 2003 ac ers hynny mae wedi bod yn gyfrifol am ei phortffolio ei hun o glientau, yn cynnwys nifer o gwmnïau, yn gofalu am eu Ffurflenni Hunanasesiad a Treth Gorfforedig.

E-bost : gwenno@owainbebb.net

 

Sulwen Roberts
Ymunodd Sulwen â ni o Gyngor Gwynedd yn 1991. Yn ychwanegol at y gwaith teipio, mae Sulwen hefyd yn gweithio ar gyfrifon, TAW a gwaith gweinyddol mewnol.

E-bost : sulwen@owainbebb.net

 

Gwion Thomas  
Ymunodd Gwion â ni yn 2005, wedi gweithio i Goleg Harlech a Harlech Frozen Foods cyn hynny.  Cymhwysodd fel AAT yn 2006 ac ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs hyfforddi ICAEW.  Mae Gwion yn gweithio ar archwiliadau’n bennaf, ac ar baratoi cyfrifon a ffurflenni Hunanasesiad.
E-bost : gwion@owainbebb.net

 

Emma Williams 
Graddiodd Emma mewn Cyfrifo a Chyllid o Brifysgol Bangor yn 1998 ac yna ymunodd â  Baker Tilly yng Nghaer, ble cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig yn 2002. Enillodd Emma brofiad o archwilio sefydliadau’r sector cyhoeddus tra gyda Baker Tilley a hi bellach yw ein Rheolwr Archwilio.
E-bost : emma@owainbebb.net

 

Peter Williams
Ymunodd Peter â ni yn 1987 o’r ysgol.  Dros y blynyddoedd, mae wedi sicrhau profiad helaeth o baratoi cyfrifon ar gyfer amrywiaeth eang o glientau.  Mae Peter hefyd yn cwblhau nifer o ffurflenni Hunanasesiad.       
E-bost : peter@owainbebb.net

 

Diolch am ymweld a'r wefan, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych angen mae croeso i gysylltu gyda ni cliciwch yma.