Owain Bebb a'i Gwmni

Cymraeg | English

Caernarfon

32 Y Maes
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 2NN

[t] 01286.675916
[f] 01286.677634
[e] post@owainbebb.com

Pwllheli

20 Penlan
PWLLHELI
Gwynedd
LL53 5DE

[t] 01758.612646
[f] 01758.701580
[e] post@owainbebb.com

Rhif T.A.W. 456 9369 95

 

Pwy ydy Pwy


Y tîm ym Mhwllheli

Iona Hughes (Pwllheli)

Addysgwyd yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a PC Bangor, ble enillodd radd BA mewn Cyfrifo a Chyllid. Derbyniodd Iona ei hyfforddiant gyda Griffith Williams & Co, Pwllheli, gan gymhwyso fel ACCA yn 1987.  Dyfarnwyd gwobrau iddi am y marc uchaf yn fyd-eang yn y papur Fframwaith Archwilio a’r marc cydradd drydydd yn fyd-eang yn y papur Arferion Cyfrifo ac Archwilio. Ymunodd ag Owain Bebb a’i Gwmni yn 2002. Partner ers 2004.

Arbenigedd : Treth, cwmnïau masnachu cyffredinol a busnesau teuluol.

E-bost : iona@owainbebb.net

 

John Ellis
Ymunodd John â’r cwmni yn 1986, wedi gweithio i Urdd Gobaith Cymru ymhlith eraill fel clerc cyfrifon. Mae gan John brofiad helaeth iawn o baratoi cyfrifon ar gyfer masnachwyr unigol a phartneriaethau.  Mae John hefyd yn gwneud gwaith ar TAW a chyflogres.

E-bost : john@owainbebb.net

 

Elan Hughes 
Graddiodd Elan mewn Nyrsio o Brifysgol Bangor ond yna trodd at gyfrifo ac ymunodd â Griffith Williams & Co., Pwllheli, gan gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig yn 2003. Gweithiodd wedyn i CeKa Tools cyn ymuno â ni yn 2007. Mae Elan yn gyfrifol am baratoi cyfrifon cwmni a phartneriaeth, a hefyd ffurflenni Hunanasesiad.

E-bost : elan@owainbebb.net

 

Angela Moore
Teipydd, derbynnydd, cyflogres. Ymunodd Angela â ni yn 1999 wedi gweithio i Roger Williams & Co, Pwllheli, cyn hynny.  Mae’n gyfrifol yn awr am waith teipio a gweinyddu swyddfa Pwllheli a rhyw faint o waith y Gyflogres.                  

E-bost : angela@owainbebb.net

 

Nerys Woodland
Ymunodd Nerys â ni yn 1986, wedi gweithio i gwmni gwreiddiol Owain Bebb. Mae ganddi brofiad helaeth o baratoi cyfrifon ar gyfer masnachwyr unigol a phartneriaethau, yn ogystal â TAW a’r gyflogres.  

E-bost : nerys@owainbebb.net

 

Gwyn Griffiths.
 Addysgwyd  yn Ysgol Botwnnog, Coleg Meirion Dwyfor a Phrifysgol Aberystwyth, lle graddiodd mewn  Amaethyddiaeth yn 2008. Ymunodd Gwyn ag Owain Bebb a’i Gwmni ym mis Tachwedd 2008. Mae Gwyn yn dilyn cwrs AAT a bydd ei brofiad yn y byd amaeth yn ddefnyddiol iawn, wrth weithio ar gyfrifon ffermwyr yn swyddfa Pwllheli.

 

 

 

Diolch am ymweld a'r wefan, os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych angen mae croeso i gysylltu gyda ni cliciwch yma.